Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) | Childcare Funding (Wales) Bill
CCF 03
Ymateb gan: Mudiad Meithrin
Response from: Mudiad Meithrin

 

Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr a hwylusydd gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.

Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar o fewn y gymuned leol.

Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin.

Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. 

O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda chynllun Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg lleol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.

Yn ogystal, rydym yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar.  Gwneir hyn trwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynllun hyfforddi cenedlaethol ar draws 5 safle daearyddol.  Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a dilyswyr mewnol.  Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl, yn staff cenedlaethol a sirol ac mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000 o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei hunain. 

Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol. 

 

Egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion polisi a nodwyd yn y Bil.

1.1. Cytunwn fod y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn cyfrannu tuag at gyflawni’r ymrwymiad i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i rieni sydd yn gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

1.2. Cytunwn hefyd gyda’r egwyddor o sefydlu un system genedlaethol ar gyfer gweithredu’r system taliadau.  Mae hyn yn osgoi sefyllfa ble gellir gweld 22 system wahanol yn cael eu datblygu gan Awdurdodau Lleol, fyddai o bosib yn datblygu systemau dwyieithog ar-lein a gwirwyr cymhwystra gwahanol.

1.3. Gwelwn fanteision i ddefnyddio system gyson a chenedlaethol ar-lein ar gyfer ymgeisio am a gwirio cymhwystra ar gyfer cyllid gofal plant.  Bydd hyn yn golygu y bydd pob rhiant a gwarchodwr yng Nghymru yn cael mynediad i’r un gwasanaeth, yr un gefnogaeth a bod y rheolau yn cael eu cymhwyso’n gyson i bawb. 

1.4. Er hynny, nodwn yr angen i sicrhau cefnogaeth bwrpasol i’r sawl sydd yn methu defnyddio neu fanteisio ar system ar-lein am amryw o resymau gwahanol.  Cyfeiriwn yn benodol at yr angen i alluogi unigolion i dderbyn cymorth i lenwi’r ffurflen ar-lein, a chynnig opsiwn o lenwi ffurflen papur ble mai dyma sydd ei hangen er mwyn galluogi’r unigolyn i’w cwblhau. 

1.5. Nodwn hefyd yr angen i sicrhau defnyddio iaith glir ac osgoi jargon er mwyn sicrhau bod y rheini a’r gwarchodwyr yn deall yr hyn sydd angen iddynt ei nodi a’r dystiolaeth mae angen iddynt gasglu at ei gilydd.

Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r prif ddarpariaethau ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hynny.

2.1   Nodwn fod mynediad at, a darpariaeth gofal plant yn gallu bod yn gymhleth i rieni ei ddeall.  Yn gyfredol, ceir Awdurdodau Lleol yn darparu ac yn gweinyddu cynlluniau megis Dechrau’n Deg ac Addysg Gynnar (3 oed) mewn ffyrdd gwahanol, sydd yn gallu bod yn ddryslyd i rieni a gofalwyr.  Wrth roi prif ddarpariaethau’r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) ar waith, rhaid oes sicrhau bod y systemau a fabwysiedir yn dryloyw ac yn hawdd i rieni a gofalwyr eu deall.

2.2   Cynigwn yr angen i ddarparu canllawiau clir i rieni a darparwyr ar gyfer hyrwyddo’r elfen cymhwystra ar gyfer cyllid gofal plant.  Rhagwelwn y bydd angen cefnogi rhieni a gofalwyr sydd ar gontractau dim oriau i sicrhau eu bod yn cadw tystiolaeth o’u horiau gwaith. 

2.3   Nodwn bwysigrwydd parhau i werthuso a monitro’r broses o weithredu’r cynllun yn ardaloedd y gweithredwyr cynnar wrth ehangu’r cynllun i awdurdodau lleol eraill. 

2.4   Yn atodol, nodwn bwysigrwydd parhau i drafod gyda’r sefydliadau ymbarél a chynrychiolwyr o’r sector nas-gynhelir wrth ddatblygu ac ehangu’r cynllun ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal plant digonol ar gael i rieni a gwarchodwyr, yn hygyrch yn fforddiadwy ac yn lleol ym mhob ardal o Gymru.

2.5   Dylai ystyriaeth o ddewis digonol o ddarpariaethau gofal plant sicrhau cyflenwad digonol o ddarpariaethau cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

2.6   Er nad yw’r cam lle mae darparwyr gofal plant yn cadarnhau cymhwystra’r plentyn o fewn cwmpas yr asesiad ar y Bil, nodwn y bydd rhaid sicrhau systemau hawlio a thalu clir ar gyfer darparwyr sydd yn cynnig llefydd gofal plant y cynnig 30 awr.  Dylai’r systemau hyn ystyried a nodi amledd y taliadau i’r darparwyr.

2.7   Yn atodol, cyfeiriwn at yr angen am systemau clir, hawdd i’w ddeall, ac amserol er mwyn i ddarpariaethau fedru cadarnhau bod sawl sydd yn cael mynediad at y cynnig gofal plant yn parhau’n gymwys.  Rhaid sicrhau bod y mecanwaith ar gyfer yr ailwiriadau ddim yn anfanteisio rhieni a gwarchodwyr, y plant na’r darparwyr wrth ei weithredu.

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol o’r Bil?

3.1   Fel prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol yng Nghymru, cytunwn fod sicrhau darpariaeth o ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n fforddiadwy ac yn hygyrch ac ar gael ar adegau pan fo’i hangen ar rieni yn hollbwysig. 

3.2   Cytunwn hefyd bod cynnig help i rieni sy’n gweithio gyda chostau gofal plant yn cyfrannu at ddileu un o’r rhwystrau posibl rhag cael cyflogaeth, ac o ganlyniad yn cyfrannu tuag at hybu’r economi, ac effeithiau tlodi mewn gwaith a lleihau nifer y plant sydd yn byw mewn tlodi.  Nodwn felly'r angen i sicrhau bod y systemau ar gyfer gweinyddu a gweithredu’r cynnig yn glir ac yn hawdd i’w ddehongli a’u dilyn gan rieni a gwarchodwyr yn ogystal â’r darparwyr. 

3.3   Gan ystyried mai’r opsiwn a ffafriwyd gan Lywodraeth Cymru yw bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn darparu ac yn gweithredu’r system ymgeisio a gwirio cymhwystra, a bod hyn yn seiliedig ar y system a ddefnyddir i weinyddu cynllun Lloegr, pwysleisiwn yr angen i sicrhau bod y system hon ar gael, ac yn weithredol, yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gydamserol. 

3.4   Os defnyddir system CThEM, yr opsiwn a ffafriwyd, ar gyfer cynnal gwiriadau’r cynllun, rhaid bydd sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r trefniadau lleol i geisio am y 10 awr o addysg gynnar y mae gan y plant yr hawl iddynt.  Nodwn hefyd, bod darpariaeth oriau addysg gynnar yn wahanol ar draws y siroedd, a bydd angen darparu gwybodaeth glir i rieni am faint o oriau gofal plant sydd ar gael iddynt ym mhob awdurdod lleol.

3.5   Er nad yw’r cam gwirio cymhwystra gan y darparwyr ar gyfer y cyllid gofal plant yn rhan o’r asesiad ar y Bil, gwelwn fod hyn yn elfen hanfodol i sicrhau llwyddiant y cynnig 30 awr.  Eto, rhaid i’r systemau ar gyfer gweinyddu a gweithredu’r cynnig yn glir ac yn hawdd i’w ddehongli a’u dilyn gan y darparwyr.

3.6   Rhaid hefyd bod yn ymwybodol am yr angen i’r system fedru gweithio yn ddwyieithog ar bob lefel.  Nid yw’r iaith a ddewisir gan riant neu warchodwr ar gyfer cyflwyno cais yn arwyddocaol o iaith y ddarpariaeth y byddant yn dewis ei ddefnyddio.



Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm esboniadol).

4.1   Nodwn bwysigrwydd trafod gyda’r sefydliadau ymbarél a chynrychiolwyr o’r sector nas-gynhelir wrth ddatblygu’r rheoliadau ar gyfer y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu’r cynllun cyllido.

4.2   Cyfeiriwn at yr angen i sicrhau bod y system a ddefnyddir ar gyfer ymgeisio a gwirio cymhwystra ar gyfer y cynnig gofal plant yn medru derbyn ceisiadau yn y Gymraeg a darparu allbynnau yn Gymraeg ac / neu yn ddwyieithog yn unol â dewis y rhiant neu warchodwr sydd yn gwneud y cais.

4.3   Nodwn yr angen i sicrhau amserlen glir ar gyfer cymhwyso cais rhieni a gofalwyr i gyllido darpariaeth gofal plant o dan y cynllun, gyda therfyn amser cadarn yn cael ei nodi i hyd bob cais.

4.4   Gan gymryd mai system CThEM a ffafrir, sydd yn seiliedig ar ac a ddatblygir i ymateb i anghenion polisi Lloegr, a fydd hyn yn arwain at ddatblygu system Gymreig, a fydd yn medru ymateb i anghenion unigryw polisi Cymreig yn amserol yn y dyfodol?




Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y noder yn Mhennod 5 rhan 1 o’r memorandwm Esboniadol).

5.1. Cytunwn bod y pwerau yn y Bil i weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y noder ym Mhennod 5 rhan 1 o’r memorandwm Esboniadol) yn briodol.

5.2. Eto, nodwn bwysigrwydd parhau i drafod gyda’r sefydliadau ymbarél a chynrychiolwyr eraill o’r sector nas-gynhelir wrth ddatblygu’r rheoliadau ar gyfer gweinyddu a thaliadau’r cynllun 30 awr.